CFfI Ceredigion yn trafod annibyniaeth

Bu aelodau CFfI Ceredigion yn trafod perthynas y sir gydag NFYFC, yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y mudiad yn Llanafan.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Bu aelodau CFfI Ceredigion yn trafod perthynas y sir gydag NFYFC nos Fercher, yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y mudiad yn Llanafan.

Ar hyn o bryd mae CFfI Ceredigion yn rhan o rwydwaith CFfI Cymru ac yn rhan o Ffederasiwn Cenedlaethol Cymru a Lloegr (NFYFC), ac mae canran o aelodaeth pob aelod yn mynd i’r ddau le.

Mae CFfI Eryri a CFfI Ynys Môn eisoes wedi dewis bod yn annibynnol o ‘National’, gan fanteisio ar gystadlaethau a chynigion CFfI Cymru yn unig.

Ar wahân i ddewis swyddogion newydd CFfI Ceredigion am y flwyddyn i ddod, y pwnc llosg yma oedd y brif eitem ar yr agenda. Roedd Dewi Parry, is-gadeirydd Cyngor NFYFC, yno i glywed barn aelodau presennol a chyn-aelodau o bob cwr o’r sir. Ond cyfle i ddechrau’r drafodaeth oedd neithiwr, yn hytrach na dod i benderfyniad.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r cwestiwn godi ymhlith aelodau’r mudiad yng Ngheredigion, ac mae’n fater sy’n siŵr o ennyn diddordeb aelodau’r ffermwyr ifanc yng Ngheredigion a thu hwnt dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Dyma Dewi Parry, Cennydd Jones a Megan Lewis yn rhoi eu barn yn syth ar ôl y cyfarfod.