Dau fudiad, un sylfaenydd

Gyda thalpiau bach o Blue-tack a stribedi gludiog o selo-têp yn dal y lluniau yn eu lle, daeth gwerth hanner canrif o hanes yn fyw ddechrau’r mis.

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Gyda thalpiau bach o Blue-tack a stribedi gludiog o selo-têp yn dal y lluniau yn eu lle, daeth gwerth hanner canrif o hanes yn fyw yn Neuadd Llanafan ddydd Sul 1 Medi.

Roedd ’na dipyn o waith cynllunio wedi bod ar gyfer yr arddangosfa ar y cyd rhwng Merched y Wawr Mynach a CFfI Trisant.

Dyma ddau fudiad o’r un ardal, a dau fudiad a sefydlwyd yr un pryd hefyd yn 1969, a hynny gan yr un sylfaenydd, sef y diweddar Mrs Gloria Evans, Rhydypererinion, Trisant.

Ac wrth edrych yn ôl ar hanner canrif o weithgarwch, roedd pawb yn rhyfeddu at ei hegni i sefydlu dau fudiad cwbl Gymreig yn yr ardal.

A does dim dwywaith bod yr egni hwnnw’n parhau hyd heddiw, gan fod ei phlant, ei hwyrion a’i gorwyrion yn aelodau brwd o’r ddau fudiad.

Dathlu

Yn rhan o’r arddangosfa, roedd yna luniau, cofnodion, llyfrau llofion, tlysau a fideos i bori trwyddynt.

Aelodau Merched y Wawr Mynach

Ond yr hyn oedd yn tynnu sylw yn syth wrth agor drws y neuadd y prynhawn hwnnw oedd y rhesaid o ffrogiau a oedd yn hogian o’r to. Ffrogiau aelodau CFFI Trisant a fu’n Morynion ar gyfer CFfI Ceredigion dros y degawdau oedd y rhain. Roedd hi’n braf cymharu steil a ffasiwn y blynyddoedd, a hynny o ffrogiau blodeuog yr wythdegau i liwiau pinc, glas a phorffor y blynyddoedd diweddar.

Ac ar ôl i dyrfa’r prynhawn gael cip ar holl ddeunydd yr arddangosfa, roedd yna de arbennig wedi’i drefnu a chyfle pellach i bobl gael clonc a hel atgofion am y dyddiau da.

Hwn oedd digwyddiad dathlu cyntaf Merched y Wawr Mynach i nodi’r hanner can mlynedd, tra bo dathliadau CFfI Trisant yn cyrraedd eu penllanw, a hynny wedi i’r clwb gynnal Cinio Dathlu ym mis Ionawr a Chyngerdd Mawreddog ym Mhafiliwn Bont ym mis Mehefin eleni.