Trigolion Llandre yn codi dros £570 at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais

Ysgoldy Bethlehem, Llandre yn llawn nos Wener, 13 Medi, ar gyfer Swper Cynhaeaf a drefnwyd gan Gapel y Garn.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Roedd ysgoldy Bethlehem, Llandre, ger Bow Street, yn llawn i’r ymylon nos Wener, 13 Medi, ar gyfer Swper Cynhaeaf a drefnwyd gan Gapel y Garn. Braf oedd gweld plant a phobl o bob oed yn dod at ei gilydd i gymdeithasu fel hyn. Cafwyd gair o groeso gan y Gweinidog, y Parch Watcyn James, cyn i bawb fwynhau swper blasus a sgwrs felys.

Delyth Jones a Dwysli Peleg-Williams oedd yn gyfrifol am drefnu a pharatoi’r wledd, a Nans Morgan drefnodd y raffl. Llywydd y noson oedd Alan Wynne Jones, ac ef oedd y cwisfeistr yn y cwis hwyliog am rai o dimau cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Codwyd cyfanswm o £571 at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais, a diolchodd y Gweinidog yn gynnes i’r rhai fu’n trefnu ac i bawb am gefnogi.

Y Parch Watcyn James yn rhoi gair o groeso i bawb.
Y Parch Watcyn James yn rhoi gair o groeso i bawb.
Delyth, Mair a Dwsli yn barod i weini’r bwyd.
Enid a Mirain yn mwynhau’r wledd.

 

Dyma stori gan Iestyn a Marian Hughes. ar gyfer gwefan fro newydd BroAber360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru