Y Gymraeg yn ganolog i Ŵyl y Gwrthryfel yn y Borth

Gŵyl arbennig yn dechrau yn y Borth i hyfforddi pobl mewn dulliau protestio di-drais.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Heddiw, mae gŵyl arbennig yn dechrau yn y Borth i hyfforddi pobl mewn dulliau protestio di-drais.

Mae Gŵyl y Gwrthryfel yn cael ei chynnal gan y mudiad protest tros yr argyfwng hinsawdd, Extinction Rebellion Cymru, ar safle gwersylla Fferm Tŷ Gwyn yn y Borth.

Nod yr hyfforddi yw paratoi at brotestiadau y mae’r mudiad yn eu trefnu ar draws y byd, gan ddechrau ar 7 Hydref.

Dewis y Borth fel lleoliad

“Fel sawl lle yng Nghymru, gall y Borth fod o dan ddŵr llawer yn gynt nag oedd unrhyw un wedi’i ragweld os na lwyddwn i ddod i’r afael â’r argyfwng hinsawdd” meddai XR Cymru.

“Bydd yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, ar draws Cymru. Yn ogystal â bod dan fygythiad llifogydd, mae llawer iawn o gymunedau Cymreig yn ddibynnol ar amaeth.

“Byddant hwythau’n cael eu heffeithio’n drwm gan newid hinsawdd wrth i’w tir, cnydau ac anifeiliaid ddioddef o ganlyniad i dywydd eithafol, colled yr uwchbridd a dirywiad ein hecosystemau.

“Rydym wedi cael llawer iawn o gefnogaeth leol, o berchennog y safle gwersylla, i’r bobl sy’n casglu deunyddiau ac offer ar gyfer y digwyddiad i’r rheini a fydd yn gwirfoddoli eu hamser dros y penwythnos i ddarparu gweithdai a sesiynau hyfforddi, a sicrhau rhediad llyfn y penwythnos.”

Y Gymraeg yn ‘hanfodol’

Mae’r trefnwyr eisiau cael gwared ar y syniad mai pwnc i fudiadau ‘Seisnig’ yw’r amgylchedd.

“Yn naturiol, gan fod hon yn ŵyl ar gyfer pobl Cymru, mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol ohoni. Dyma iaith y wlad ac iaith gyntaf llawer o’r aelodau ac felly mae’n angenrheidiol fod y Gymraeg yn weladwy,” meddai XR Cymru.

“Mae’r argyfwng hinsawdd a’r creisis ecolegol yn berthnasol i bawb ond yn y gorffennol bu tueddiad i weld mudiadau amgylcheddol fel mudiadau “Seisnig” gan Gymry Cymraeg.

“Rydym yn awyddus fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio gymaint ag sy’n bosib; yn gyfieithiadau ac yn ddeunydd gwreiddiol. Mae hyn wedi cynnwys pamffledi a baneri, caneuon, fideos, a chyfryngau cymdeithasol.

Gwreiddio’r ŵyl yn yr ardal leol

Mae’n dweud taw “egni’r Cymry a’r rheini sy’n byw yma – o Borth, Machynlleth, Bangor, i’r Fenni a Chaerdydd – sydd wedi creu Gŵyl Gwrthryfel Cymru,” gan adlewyrchu natur ddatganoledig y mudiad.

Pwysleisiodd hefyd fod y mudiad ynghyd â’r ŵyl wedi’u gwreiddio yng nghymeriad unigryw yr ardal a hefyd yng Nghymru fel gwlad.

Bydd yr ŵyl yn para rhwng 13 a 15 Medi, ac yn ogystal â hyfforddiant, bydd cerddoriaeth, dawnsfeydd, gweithgareddau i blant, sgyrsiau gan arbenigwyr a gweithdai creadigol hefyd yn rhan o’r ŵyl. Ceir amserlen digwyddiadau ar gyfer yr ŵyl ar Twitter.